Dolenni Llawes Adar yr Orsedd Arian £125.00
gan
Rhiannon
Hefyd ar gael mewn:
Manylion
Darn arbennig a grëwyd gan Rhiannon i ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Geredigion yn 2020 ac i gyfrannu at ariannu’r Eisteddfod, fydd wedi ei leoli yma yn Nhregaron.
Ar yr olwg gyntaf mae’r cynllun yn debyg i flodyn bychan, ond o edrych yn fanwl gwelir cerrig yr Orsedd a’r maen Llog yn y canol, ac o’u hamgylch mae tri barcud coch yn hedfan,- aderyn prin a gosgeiddig sy’n nodweddiadol o Dregaron a Cheredigion.
Rhoddir £20 i gronfa’r Eisteddfod am bob un a werthir, a gellwch briodoli hwnnw i’ch cronfa leol chwi os dewiswch.