Tlws Croes Llydaw Aur 18ct £1595.00
gan
Rhiannon
Manylion
Croes Geltaidd ysgafn ag iddi gylch bach a breichiau addurniedig. Darganfuwyd y math yma o groes yn aml yn Llydaw a Chernyw.
Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i’w hwyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.