Modrwy Neidr £85.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Ers y cyfnod hynafol, mae’r Sarff wedi ei gysylltu’n ddiwylliannol â iachau a ffynhonnau sanctaidd. Roedd yn greadur symbolaidd yng nghelfyddyd y Celtiaid a defnyddir ef hyd heddiw fel symbol gweledol o feddygaeth mewn nifer o wledydd. Mewn llawer o ffynhonnau iachau credir bod ysbryd y Sant sy’n gysylltiedig a’r ffynnon yn byw ar ffurf llysywen (sarff ddŵr) yn nyfnder y dŵr ac yn medru ymddangos i fendithio’r claf. Mewn cyfnod cynharach efallai mai cynrychioli ysbryd y dŵr ei hunan yr oedd; - roedd ffynhonnau, llynnoedd ac afonydd yn “sanctaidd” i’n cyndeidiau ymhell cyn dyfodiad Cristnogaeth.