Llun o 'Pin Myrddin Aur Cymru Rhiannon 18ct''
Llun o\'Pin Myrddin Aur Cymru Rhiannon 18ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: D914p
Pris: £1295.00
Categori: Piniau
Cyfrwng: Aur Cymru Rhiannon 18ct
Maint: 17x17mm
Pin: Cydiwr Gafael

Pin Myrddin Aur Cymru Rhiannon 18ct £1295.00

Aur Cymru Rhiannon 18ct
£1295.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Manylion

Seiliwyd y cynllun gwreiddiol hwn ar chwedlau hynafol Myrddin, y derwydd a’r proffwyd. Mabwysiadwyd Myrddin gan chwedlau cyfandirol rhamantaidd Arthur, fel dewin a gwr doeth, ond mae chwedlau mwy hynafol amdano yn y Gymraeg. Un ohonynt yw ‘Proffwydoliaeth Myrddin’ sy’n rhan o’r Mabinogi. Mae’n son am ddwy ddraig yn brwydro, y naill yn wyn a’r llall yn goch, gan broffwydo ymosodiad y Sacsoniaid ar Ynys Prydain a’i thrigolion Celtaidd. Mae’r cynllun yn uno’r Trisgell Geltaidd cyfarwydd gyda Dreigiau, sydd yn aml yn gysylltiedig â Myrddin. Mae’r ddraig hefyd yn arwydd cenedlaethol Cymru.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.

O'r un teulu