Tlws Myrddin Aur Cymru Rhiannon 18ct £1995.00
gan
Rhiannon
Hefyd ar gael mewn:
Manylion
Seiliwyd y cynllun gwreiddiol hwn ar chwedlau hynafol Myrddin, y derwydd a’r proffwyd. Mabwysiadwyd Myrddin gan chwedlau cyfandirol rhamantaidd Arthur, fel dewin a gwr doeth, ond mae chwedlau mwy hynafol amdano yn y Gymraeg. Un ohonynt yw ‘Proffwydoliaeth Myrddin’ sy’n rhan o’r Mabinogi. Mae’n son am ddwy ddraig yn brwydro, y naill yn wyn a’r llall yn goch, gan broffwydo ymosodiad y Sacsoniaid ar Ynys Prydain a’i thrigolion Celtaidd. Mae’r cynllun yn uno’r Trisgell Geltaidd cyfarwydd gyda Dreigiau, sydd yn aml yn gysylltiedig â Myrddin. Mae’r ddraig hefyd yn arwydd cenedlaethol Cymru.