Tlws Cantre’r Gwaelod Aur Cymru Rhiannon 9ct £3895.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Rhan o diriogaeth Meirionnydd oedd Cantre’r Gwaelod, yn cael ei reoli gan y brenin Gwyddno Garanhir, a anwyd tua’r flwyddyn 520 O.C.
Roedd yn dir ffrwythlon iawn a dywedid bod un erw o dir Cantre’r Gwaelod yn gyfwerth a phedair erw o dir yn unman arall. Y broblem oedd bod y tir yn isel iawn, ar lefel y mor ac wedi ei amddiffyn gan forglawdd. Roedd giatiau yn y morglawdd a agorid ar lanw isel i ddraenio’r dŵr o’r tir, ac yna eu cau eto wrth i’r llanw ddod i mewn.
Tua’r flwyddyn 600, daeth storm fawr o’r de-orllewin, gan yrru llanw uchel yn erbyn y morglawdd. Dyn o’r enw Seithennin oedd ceidwad y morglawdd ar y pryd, cyfaill i’r brenin oedd yn hoff iawn o’r ddiod gadarn, ac roedd hwnnw yn gwledda yn nhy’r brenin ger Aberystwyth ar y noson honno. Dywed rhai iddo syrthio i drwmgwsg yn ei ddiod, ac eraill iddo fod yn mwynhau cymaint nes iddo anghofio cau’r llifddorau.
Gadawyd y giatiau ar agor, a rhuthrodd y mor i mewn i dir Cantre’r Gwaelod, gan foddi 16 o bentrefi. Dihangodd y brenin a rhai o ddynion y llys trwy redeg i dir uwch ar hyd Sarn Gynfelin, un o’r ffyrdd caled oedd yn arwain allan o’r Cantref. Wedi hynny, gadawodd Gwyddno a’i ddilynwyr yr iseldir ac ennill bywoliaeth orau y medrent ym mryniau a dyffrynoedd Cymru.
Hyd heddiw dywedir bod modd clywed clychau eglwysi Cantre’r Gwaelod yn canu dan y dŵr ar noson stormus. Yn ol traddodiad, y lle gorau i’w clywed yw Aberdyfi ar fore Sul, gan ei fod yn agos iawn i bentrefi coll Cantre’r Gwaelod Y cyfan sydd yw weld o Gantre’r Gwaelod heddiw yw’r pedair sarn sy’n arwain allan i’r bae a’r bonion coed a welir ar draeth y Borth ar lanw isel, olion coedwig hynafol a elwir Coed Gwyddno.
Cynhyrchiad cyfyngedig o 25 yn unig, wedi eu rhifo'n unigol.