Tlws Dolforwyn Aur Cymru Rhiannon 9ct £4495.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Yn dwyn enw Castell Dolforwyn ym Mhowys mae’r tlws hwn wedi ei osod â deiamwnt tystysgrifedig o’r safon uchaf, lliw DEF, clirder VVS neu well, maint o leiaf 0.40ct.
Ysbrydolwyd y cynllun gan chwedl Hafren, merch llwyn a pherth y Brenin Locrinus. Boddwyd hi a’i mam, Estrildis, yn yr Afon Hafren gan wraig Locrinus, Gwyneth, ar ôl i’w byddin ei ladd mewn brwydr. Enwyd Afon Hafren ar ei hôl.
Cynrhychiolir y castell uwchben yr afon gan y deiamwnt yn y cynllun, tra bo’r clymwaith a’r motif calon ynddo yn cyfleu llif yr afon a chariad Locrinus ac Estrildis.
Cynhyrchiad cyfyngedig o 25ain yn unig, wedi eu rhifo yn unigol.