Necled 18ct Cŵn Annwn £6795.00
gan
Rhiannon
Manylion
Daw teitl y darn o chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, rhan o’r mabinogi. Tra’n hela carw, mae Pwyll yn dod ar draws cŵn heliwr arall ar yr anifail cyn iddo fedru ei hawlio dros ei hun. Maent yn gŵn mawr rhyfedd yr olwg, rhai "claerwyn llachar a’u clustiau yn goch fel gwaed". Mae’n gyrru’r cŵn ymaith, ond wedyn yn darganfod eu bod yn eiddo i Arawn, brenin Annwn (yr arallfyd). Er mwyn ennill ei faddeuant, rhaid i Pwyll gyfnewid bywyd gydag Arawn a lladd gelyn iddo yn Annwn. Mae drychddelwedd y darn yn adlewyrchiad o’r cyfnewid hwn.
Seiliwyd y cŵn ar y Bleiddgi Gwyddelig, sy’n ddisgynydd i gŵn y pendefigion Celtaidd ac yn cyfateb i’r disgrifiadau yn y Mabinogi a chwedlau Iwerddon.