Clustdlysau Afon Teifi Arian ac Aur £265.00
gan
Rhiannon
Manylion
Un o gasgliad Afonydd Rhiannon, wedi ei ysbrydoli gan Afon Teifi, sydd yn tarddu yn Llyn Teifi (un o lynnoedd Teifi, ger Pontrhydfendigaid) ac yn ymlwybro'i ffordd ar hyd Ceredigion i Aberteifi. Mae'r afon yn llifo trwy Gors Caron, ac yn ddarn pwysig o dirwedd ardal Tregaron, cartref Gemwaith Rhiannon.
Darn trawiadol a modern wedi ei wneud o Arian trwchus gyda'r patrwm wedi'i haenellu mewn Aur 18ct. Mae pob un o'r darnau unigol hyn wedi eu cerfio allan â llaw ac wedi eu harwyddo ar y cefn gan Rhiannon ei hun.