Tlws 9ct Garan £995.00
gan
Rhiannon
Manylion
Mae'r Garan yn symbol pwerus yng nghelfyddyd y Celtiaid ac yn ein chwedloniaeth mae'n gysylltiedig â'r goruwchnaturiol a'r syniad o ail-enedigaeth. Mae'n un o'r creaduriaid sydd yn aml yn cyfnewid â ffurf dynol ac yn medru symud yn rhwydd rhwng y byd meidrol a’r byd ysbrydol. Yn y cynllun gwreiddiol hwn gan Rhiannon, mae dau o'r adar enigmatig hyn ynghudd mewn patrwm o glymwaith dyrys.