Broets Draig Gylch Aur 9ct £825.00
gan
Rhiannon
Manylion
Mae dreigiau'n bwysig iawn mewn mytholeg Geltaidd ac yn ymddangos yn aml yn ein chwedlau. I ddechrau, ymgorfforiad dychmygol o nerthoedd y ddaear oedd y ddraig, ond wedyn daeth yn symbol cenedlaethol o Ynys Prydain, ac ymhen amser yn ddraig heraldaidd ar faner Cymru. Mae’r ddraig hon, sy'n difa ei hun ac yn adfywhau - y Ddraig ‘Ouroboros’ - yn symbol o fywyd tragwyddol.