Llun o 'Dolenni Llawes Cwlwm Celtaidd Arian''
Llun o\'Dolenni Llawes Cwlwm Celtaidd Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S001c
Pris: £195.00
Categori: Dolenni Llewys
Cyfrwng: Arian
Maint: 16 x 18mm
Cefnau Tro: Oes

Dolenni Llawes Cwlwm Celtaidd Arian £195.00

Arian
£195.00
Ar gael: Nifer gyfyngedig
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Manylion

Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar y cwlwm nodweddiadol Geltaidd a ffurfiwyd o un linell ddi-dor, sy’n ymddangos ar gerrig cerfiedig ac mewn llawysgrifau Cristnogol cynnar. Fersiwn syml yw hwn ond mae ei harddwch a’i gytbwysedd goruwch llawer o gynlluniau clymwaith mwy cymhleth.

Mae’r cynllun hwn yn un o nifer yn ein casgliad Clymwaith Celtaidd. Mae’n debyg mai Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus mewn celfyddyd Geltaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen. Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant i’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a’r byd naturiol fel ei gilydd.

O'r un teulu