Trwsio ac Adfywio
Os yw’ch gemwaith wedi colli ei sglein, angen cariad neu wedi bod ar goll mewn cwpwrdd am sbel, rydym yn darparu gwasanaeth adfywio iddynt. Gallwn lanhau ac ail-sgleinio eich gemwaith â llaw yn drylwyr. Gwnawn hefyd sicrhau bod gosodiadau mewn cyflwr da, os oes angen, a dychwelyd eich gemwaith fel newydd.
Os yw’ch modrwy angen cael ei ail-feintio, neu fod angen gleiniau yn y cylchyn, neu hyd yn oed os gennych ddarn o emwaith sydd wedi derbyn niwed, gallwn asesu'r darn a chynnig pris i chi am y gwaith o'i drwsio.
Rydym yn cynnig ein gwasanaethau trwsio ac adfywio ar gyfer gemwaith gan wneuthurwyr ansawdd uchel eraill hefyd, yn ogystal â darnau Rhiannon, ond cedwir pob hawl i wrthod trin eitemau sydd yn ein tŷb ni'n methu cael eu trwsio neu eu hadfywio heb berygl o niweidio'r eitem.
Mae'r ddogfen isod yn rhoi syniad o gostau y mathau o waith y gallwn ymgymryd â hwy, ond y cam cyntaf ym mron pob achos fydd glanhau a gwirio, er mwyn i'n gemyddion fedru asesu'r eitem lân yn drylwyr yn gyntaf, cyn cynnig pris am unrhyw waith pellach y byddan nhw'n ei argymell sydd ei angen. Yn anffodus nid oes modd asesu darn yn gywir o luniau ohono, na chyn ei lanhau'n drylwyr. Ond mae croeso i chi bostio eich eitem atom ni drwy bost cofrestredig, gyda'ch rhif ffôn a'ch cyfeiriad dychwelyd llawn, i gael ei lanhau a'i wirio am y pris yn y ddogfen isod, ac am asesiad a chynnig o bris am wneud unrhyw waith pellach y bydd ei angen. Bydd dim ymrwymiad i gael unrhyw waith pellach wedi ei wneud gyda ni, ond gofynnwn i chi dalu'r costau am ddychwelyd eich eitem drwy bost cofrestredig. Mae darnau Rhiannon ei hun yn derbyn gostyngiad o 50% ar y costau isod.
Cysylltwch â ni am fwy o fanylion am ein gwasanaeth trwsio: