Clymwaith Creadigol

Rydym yn defnyddio patrymau clymwaith yn helaeth yn ein cynlluniau, yn ôl y disgwyl, gan ddechrau gyda’n Cwlwm Celtaidd clasurol (rhif 001, cynllun cyntaf oll Rhiannon, ac yn dal yn boblogaidd).

Roedd clymwaith, sef patrwm o linellau diderfyn yn gwau drwy ei gilydd, yn nodwedd o gelfyddyd ac addurn yng ngwledydd y Dwyrain yn yr oesoedd cynnar, gan amlaf mewn patrymau geometrig symetrig. Cafodd ei fabwysiadu yn ddiweddarach gan wledydd Llychlyn a gogledd Ewrop.

Roedd ganddo apêl arbennig i’r Celtiaid, gan eu bod yn credu eisoes yng nghylchoedd tragwyddol bywyd a chysylltiadau cymhleth rhwng popeth ym myd natur. Pan ddaeth Cristnogaeth i ynysoedd Prydain, trawsnewidiwyd y canolfannau addysg derwyddol yn raddol wrth i’r penaethiaid Celtaidd fabwysiadu’r ffydd newydd, a sefydlwyd canolfannau mynachaidd Cristnogol yn eu lle, gan ychwanegu sgiliau yn yr iaith Ladin, darllen ac ysgrifennu, yn ogystal a’u meysydd gwybodaeth traddodiadol. Hawdd deall sut yr oedd patrymau clymwaith yn apelio ac yn ysbrydoli’r mynaich, yn symbol o gylchoedd tragwyddol a chydberthnasedd cymhleth creadigaeth Duw. Roedd ganddynt eisoes draddodiad hirhoedlog o gelfyddyd weledol, ac yn fuan datblygwyd ffurfiau creadigol newydd o batrymau clymwaith, yn ymgorffori adar, anifeiliaid, ffigyrau dynol a ffurfiau triphlyg y Trisgell Celtaidd. Gwnaethant hynny gyda chrefft ac arddeliad anghyffredin i greu llawysgrifau addurniedig godidog, cerfiadau carreg hynod a gwaith metel cain, gan sefydlu arddull artistig arbennig a ddaeth yn fyd enwog ac a oedd yn unigryw i Ynysoedd Prydain. O ganlyniad, gelwir patrymau clymwaith cyffredinol bellach yn “Geltaidd”, ac ystyrir y geiriau “Celfyddyd Geltaidd” yn aml yn gyfystir â phatrymau clymwaith! Mae ambell un o’n cynlluniau, fel Deryn, Rhigyfarch a Trisgell Talyllyn, yn gynrychiolaeth uniongyrchol o weithiau artistiaid hynafol na ellir gwella arnynt.

Wedi etifeddu holl ystod y traddodiad Celtaidd hwn ar draws y canrifoedd, medrwn fanteisio ar y cyfan sydd ganddo i’w gynnig, nid yn unig y ffurfiau craidd. Mae hyn yn wir am ein darnau clymwaith yn ogystal a’n cynlluniau mwy cyfoes. Gwelir bod y tyllau sydd mewn cynllun clymwaith yn rhan sylfaenol o strwythyr y darn, ynghyd â ffurf a llif y llinellau eu hunain, gan greu rhywbeth nodweddiadol Geltaidd wedi ei gyfuno â gweledigaeth gyfoes o draddodiad byw.

Mae Gwylanod a Ceffylau Manawydan yn cynnwys adar ac anifeiliaid mewn llinellau clymwaith crwm gosgeiddig sy’n  llifo,  yn cyfleu symudiad tonnau mawrion y môr.

Mae Rhiannon yn ddarlun o fenyw urddasol gydag awgrym o osgo duwies neu dderwydd, ac o’i chwmpas mae cwmwl o linellau clymwaith mân yn cynnwys adar bach cudd, - y cyfan yn cyfleu’r cymeriad chwedlonol a’i gosgordd o adar hud anweledig sy’n swyno â’u cân.

Un peth sy’n dangos natur fyw ein traddodiad yw ein defnydd o siapiau calon o fewn clymwaith, -symbolaeth fodern yn amlwg neu yn gudd, fel yn Gylfinir, un o’r cynlluniau cynharaf, neu yn syml a hardd yn Llanddwyn, un o gynlluniau Aur Cymru Rhiannon.