Sut i Adnabod Diemwnt o Safon

Heddiw hoffwn drafod diemwntau a sut wnes innau ddod i’w caru. 

Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn wreiddiol â meddwl uchel ohonynt (a finnau’n dod o gefndir gofaint Aur ac Arian, mae’n bosib nad yw hynny’n syndod!) ond tra’n mynychu cwrs graddio ac asesu diemwntau cefais fy nhröedigaeth – rhywle oddeutu y 250fed carreg sylweddolais bod yma drysor pert a thrawiadol. 

Erbyn heddiw rwy’n dwli dewis cerrig yn benodol i gwsmeriaid tuag at bwrpas, naill ai’n ddarn comisiwn neu’n fodrwy arbennig, mae yna bleser ac anrhydedd mewn derbyn y cyfrifoldeb o ddethol rhywbeth mor werthfawr.  

Toriad, lliw, clirder a charat yw meini prawf bob diemwnt erbyn hyn gyda’r cyntaf ohonynt yn cael y sylw lleiaf serch mai hwn yn aml yw’r un mwyaf pwysig. Mae’r toriad yn fwy na siâp y garreg: ‘round brilliant’ (y ffurf mwyaf adnabyddus), emrallt, tywysoges, sgwâr, ac ati. Mae’r toriad yn medru ychwanegu tân a bywyd i garreg neu ei gadael yn llwm a marwaidd.  

O ran lliw a chlirder, dim ond y cerrig â’r graddau uchaf o’r labordai gorau (GIA sy’n arwain y byd), sydd yn medru cael eu hystyried o safon buddsoddi.  

Gyda dim ond un o bob pump diemwnt yn ddigon da i gyrraedd y farchnad gemwaith a dim ond canran fechan ohonynt yn ddigon da i gyrraedd y safonau uchaf, hawdd gweld pam bod rhain yn gerrig cryn dipyn drytach na’r diemwntau mwy cyffredin. 

Carat yn syml iawn yw pwysau’r garreg gydag 1ct yn gyfystyr a 0.2gm. 

Yn aml bydd pobl yn anwybyddu agweddau eraill diemwnt er mwyn cael y garreg fwyaf o fewn ei cyllideb personol. Er bod maint yn bwysig, mae hefyd yn bwysig bod safon y garreg yn uchel. Bydd rhai yn teimlo ei bod hi’n fwy trawiadol i wisgo diemwnt 2ct nag 1ct ond nid yw hyn yn wir o reidrwydd. Nid yw Ferrari yn gar mor fawr a Land Rover ond byddai’r mwyafrif yn ei feddwl yn fwy trawiadol! O’m safbwynt innau fel gemydd carat yw’r ffactor lleiaf pwysig mewn dewis carreg – yr hyn rwy’n mynnu arni yw lliw a chlirder o’r safon uchaf a thoriad sydd yn bywiogi’r garreg. 

Toriad diemwnt yw’r unig agwedd ohono sydd yn gwbl ddibynnol ar ddyn. Rhaid i dorrwr diemwntau ddadansoddi carreg grai a phenderfynu sut i gael y gorau ohoni o ran prydferthwch a gwerth trwy reddf a theimlad – gallu’ torrwr yn fwy nag unrhyw beth sy’n effeithio ar sglein a disgleirdeb y garreg orffenedig. 

Dyma pam wyf yn mynnu dewis pob carreg â’m llygad fy hunan. Yn aml byddaf yn didoli pecyn o hanner cant neu fwy o gerrig, a fydd i gyd wedi eu graddio i’r un lefel, er mwyn dewis y pump gorau (o sicrwydd bydd pump sâl yn y pecyn hefyd ond bydd pris pob carreg yr un peth er gwaethaf hynny.) Wyf o’r farn bod yr amser a’r ymdrech yn fuddsoddiad gwerth chweil er mwyn sicrhau bod y cerrig gorau yn y pecyn yn diweddu eu hoes mewn darn o emwaith Rhiannon! 

 Dim ond y gorau i’n cwsmeriaid ni!
,