Croesau Aruchel

Canolfannau bychain oedd y sefydliadau Cristnogol cyntaf yn Ynys Prydain, wedi eu harwain gan fynachod meudwyaidd. Yn raddol denwyd mwy a mwy o ddilynwyr atynt nes iddynt ddatblygu’n fwy fel pentrefi bach, yn amgylchynnu nifer o dai annedd, tai i westeion, gweithdai crefft a thŷ gweddi neu eglwys fechan. Adeilad bychan tywyll gyda tho isel fuasai’r eglwys honno, at ddefnydd y mynaich a’r arweinyddion crefyddol i fyfyrio a gweddïo. Mae’r rhai oedd yn y wlad hon wedi hen ddiflannu a’r canolfannau wedi eu cymryd drosodd yn eu tro gan yr Eglwys sefydledig Gatholig ac wedyn Anglicanaidd. Er hynny, mae nifer ohonynt yn sefyll hyd heddiw fel lleoliadau treftadaeth yn yr Iwerddon ac ar ynys Iona.

Buasai’r dilynwyr lleyg ac ymwelwyr o’r cyhoedd yn cael eu harwain mewn addoliad gan y mynaich, ond y tu allan i’r adeilad, lle’r oedd digon o le yn yr awyr agored. Rhoddwyd ffocws i’w haddoliad gan garreg fawr â chroes wedi ei naddu arni. Meini amrwd oedd y cerrig sanctaidd hyn i ddechrau, gyda siâp croes syml wedi ei naddu’n ddwfn i’r wyneb, ond wrth i’r canolfannau dyfu mewn maint a phwysigrwydd, felly hefyd y croesau.

O’r wythfed ganrif ymlaen, aeth y cerfiadau yn fwyfwy addurnedig, yn aml wedi eu cerfio ar bob ochr, ac ymhen amser cerfluniwyd y garreg ei hun i ffurf mwy cywir gyda chroes gylch ar ei phen. Roedd y croesau hyn yn dal iawn ac wedi eu cerfio’n llawn ar bob wyneb gyda phatrymau clymwaith a golygfeydd o’r Ysgrythurau; gelwir y math hwn heddiw yn Groes Aruchel. Saif rhai o hyd mewn llawer o ganolfannau hynafol ac eglwysi presennol yn Ynys Prydain ac Iwerddon. Yng Nghymru gellir eu gweld yn Nanhyfer, Carew, Penali a Llandudoch yn Sir Benfro, ym Margam a Llanilltud yn Sir Forgannwg ac mewn llawer lle arall ledled Cymru.

Mae’n rhaid bod y Croesau Aruchel hyn wedi cyflawni pwrpas tebyg iawn i’r murluniau a sgriniau addurnedig a lliwgar oedd yn ein heglwysi Canoloesol yn ddiweddarach, ac mae rhai arbenigwyr wedi awgrymu bod y croesau hefyd wedi eu haddurno â lliwiau llachar. Prin yw’r dystiolaeth am hynny heddiw, wedi iddynt sefyll ymhob tywydd am dros fil o flynyddoedd.

,