Deiamwntau

Canllaw i'r Prynwr


Does dim byd tebyg i ddeiamwnt. Mae'n dueddol o gyddio yn y mannau mwyaf anghysbell, ac mae'r ffaith ei fod wedi ffurfio o gwbl yn dipyn o wyrth. Mae'n rhaid prosesu tua thunnell o graig er mwyn dod o hyd i lai na hanner carat o ddeiamwnt garw, sy'n gwneud deiamwntau yn un o'r cerrig gwerthfawr mwyaf prin a dymunol yn y byd. Mae deiamwnt yn destament o wydnwch a chryfder - a does ryfedd, felly, ei fod y symbol pennaf o gariad.

Mae pob deiamwnt yn wyrth o le ac amser a ffawd. Megis plu eira, does dim dau yn union yr un peth. Mae pob un yn adlewyrchu stori ei siwrnau lafurus o ddyfnderoedd y Ddaear i addurn hoff. Ac eto, mae pob deiamwnt yn rhannu hynodion sy'n caniatáu i ni eu cymharu a'u gwerthuso.

Carat - Ei Bwysau

Maint deiamwnt yw’r factor pennaf sy'n effeithio ar ei bris. Y carat metrig, sef 0.20gram, yw’r uned bwysau safonol ar gyfer deiamwntau a’r mwyafrif o emau eraill. Gyda'r ffactorau eraill i gyd yn gyfartal y garreg drymaf fydd y garreg fwyaf gwerthfawr.

Lliw - Ei Wedd

Dylai deiamwnt gwir bur ymddangos fel crisial clir di-liw. Mae lliw mewn deiamwnt yn cael ei achosi gan anghysondebau cemegol a gwendidau strwythurol, a'r mwyaf cyffredin o'r rhain yw'r melynu sy'n cael ei achosi gan bresenoldeb nitrogen.

Bydd amhuredd boron yn achosi arlliw glas, a gall arbelydriad achosi arlliw gwyrdd. Gall deiamwntau arddangos arlliw o binc i borffor, coch neu hyd yn oed du.

Yma, byddwn yn edrych ar ddeiamwntau pur (a'u gelwir hefyd yn ddeiamwntau gwyn), ac er fod llawer o bobl yn ystyried deiamwntau o safon gem i fod yn ddi-liw, mae deiamwntau gwir ddi-liw yn brin iawn.

Mae'r raddfa liw GIA i'w gweld isod:

Dim ond drwy gymharu cerrig ochr yn ochr mewn amgylchedd reoledig (a gwyn iawn) y mae gemydd yn medru adnabod y gwahaniaeth mewn lliw rhwng cerrig lliwiau D, E, ac F, a ni fyddai llygad anhyfforddedig yn medru gwahaniaethu rhwng cerrig hyd at radd H!

Claearder - Ei Burdeb

Does ryfedd fod gan y rhan fwyaf o ddeiamwntau 'namau' ynddynt, o ystyried eu bod wedi cael eu creu drwy grisialu carbon pur yn ddwfn o fewn y Ddaear drwy eu tra-phoethi o dan wasgedd aruthrol. Mae'r cynwysiadau mewnol a'r meflau arwynebol hyn yn rhan o stori'r deiamwnt - mae deiamwnt heb unrhyw olion o'r fath yn brin ofnadwy, a'r un mor werthfawr!

Mae'r raddfa glaearder yn fesur o'r namau hynny.

Toriad - Ei Ffurf

Toriad deiamwnt yw’r unig agwedd ohono sy'n gwbl ddibynnol ar ddyn. Mae toriad deiamwnt yn batrwm neu gynllun i'w ddilyn tra'n llunio siâp deiamwnt ar gyfer ei gaboli, e.e. y toriad 'disglair' (brilliant). Maer toriad yn cyfeirio nid yn unig at y siâp (gellygffurf, hirgrwn, ac ati) ond hefyd at gymesuredd, gyfraneddau a gorffeniad deiamwnt. Dyma'r ffactorau sy'n penderfynu disgleirdeb y deiamwnt. Y nod o ran echdynnu'r prydferthwch mwyaf o ddeiamwnt yw ennyn golau i wasgaru wrth iddo adlamu ac adlewyrchu y tu mewn iddo gan ryddhau'r sbectrwm llawn o liwiau a'r effaith befriog, cyn dychwelyd cymaint o'r golau â phosib i'r llygad.