Tlysau

Yn ogystal â bod yn unigryw ac wedi’u gwneud â llaw, mae ein tlysau i gyd wedi’u cwblhau â chadwyni a gosodiadau o’r ansawdd uchaf, ac wedi’u cynnwys o fewn ein gwarant, er tawelwch meddwl. Rydym wedi datblygu ein hystod o gynlluniau dros y blynyddoedd ac erbyn hyn credwn fod yna rywbeth i bawb yn y casgliad. Ac rydyn ni’n parhau i ddylunio a chynhyrchu, felly unwaith i chi ddod o hyd i’r darn sy’n eich gweddu’n berffaith, heb amheuaeth fe fydd darnau eraill i'w hychwanegu at eich casgliad! Yr anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur, wedi’i dylunio i’w gwisgo bob dydd ac wedi'i chreu i bara am oes.

I gydfynd â phob cynllun, rydyn ni’n sicrhau bod yna glustdlysau neu fotymau clust sy’n gweddu er mwyn creu set. Mae i rai cynlluniau froetsiau, pinnau, breichledau neu fodrwyau sy’n gweddu hefyd. Croeso mawr i chi holi am unrhyw arweiniad gan fod ein tîm yma yn Rhiannon yn adnabod pob cynllun yn fanwl ac yn medru eich helpu i ddewis y darn mwyaf addas ar gyfer unrhyw achlysur, ar eich cyfer eich hun neu fel rhodd.