Deiamwntiau a Cherrig Gwerthfawr

Yn unol â'n polisi o ddefnyddio dim on y deunyddiau gorau rydym yn mynnu deiamwntiau a cherrig gwerthfawr o'r safon uchaf. Ein dewis clir yw deiamwntiau o liw DEF, gyda chlaerder o safon IF/VVS. Os oes gan ddeiamwnt doriad eithriadol o brydferth a'r gallu arbennig i ddal y golau fe ystyriwn glaerder o safon VS. Darllenwch fwy am ddeiamwntau yn ein canllaw ar gyfer prynwyr yma. Heb os nac oni bai mae pob carreg yn unigryw a rydym yn cydnabod hyn yn ein chwilota trwyadl amdanynt.