Clymwaith Traddodiadol

Mae'r patrymau hyn yn seiliedig ar y cwlwm nodweddiadol Geltaidd a ffurfiwyd o un linell ddi-dor, sy'n ymddangos ar gerrig cerfiedig ac mewn llawysgrifau Cristnogol cynnar. Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu drwy ei gilydd yn taro tant i'r Celtiaid gan adlewyrchu eu syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth â'r byd naturiol a'r dwyfol fel ei gilydd.