Yr Eisteddfod

I ni yng Nghymru mae eisteddfod yn beth cyfarwydd, yn rhan o fywyd bob dydd yn yr ysgol, y pentref a’r gymuned. Cymaint felly nad ydym yn meddwl amdano lawer nac yn ystyried ei bwysigrwydd. Ond mae cynnal Eisteddfod yn rhywbeth hollol Gymreig ac yn draddodiad sydd gyda ni ers canrifoedd. Yno mae plant ifanc yn magu’r hyder i berfformio ar lwyfan ac yn datblygu eu sgiliau cerddorol a llafar, a’r rhai mwyaf llwyddiannus yn meithrin sgiliau rhagorol wrth dyfu’n oedolion.  

Does dim rhyfedd felly bod cymaint o gerddorion, actorion a pherfformwyr eraill byd-enwog wedi tarddu o’r wlad fechan hon. Yn ddiweddar mae llawer o fewnfudwyr i Gymru hefyd wedi elwa o’r arfer ac wedi dod i werthfawrogi’r traddodiad, – ac mae rhaglenni ffug-eisteddfodol yn ymddangos ar deledu Saesneg. 

Parhad yw’r eisteddfodau o draddodiad hen iawn yn ein gwlad, lle’r oedd y pethau yma’n bwysig a phobl yn clodfori a noddi beirdd, cantorion a thelynorion. Mae’r ffaith eu bod yn dal gyda ni yn drysor arbennig a’r ffordd ry’n ni’n eu cadw’n fyw a’u haddasu i fywyd modern yn drysor mwy fyth!  

Yr wythnos hon gwelwn y goreuon ymysg ein pobl ifainc ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, gyda darllediad llawn ar S4C. Ar yr un pryd darlledir “Britain’s Got Talent” ar deledu Saesneg. Diddorol yw’r gymhariaeth!
,