Darn Pen Blwydd 50 Rhiannon
Dros y blynyddoedd rydym wedi gwneud niferoedd mawr o anrhegion arbennig i bobl ddathlu eu Penblwyddi Aur. Eleni ein tro ni yw hi wrth i ni gyrraedd y garreg filltir hon ein hunain!
Rhaid cyfaddef nad yw pethau yn hollol unol â'r cynlluniau gwreiddiol gan fod ein pen blwydd go iawn ar ddiwedd mis Mai. Ond mae amgylchiadau eleni wedi ei gwneud hi'n amhosibl dathlu ar y diwrnod.
Y darn gorffenedig...
Mae'r darn cyfres cyfyngedig syfrdanol hwn gan Rhiannon yn dathlu ein pen blwydd ni ein hunain yn 50 oed.
Pen blwydd hapus i ni!
Dyma daith y darn eithriadol rydym wedi'i ddylunio a'i greu yn arbennig i ddathlu ein hanner cant, yn gyfres gyfyngedig o 50 gyda diemwnt o'r safon uchaf, maint 0.50ct yn ei ganol.
Symbylir ein blynyddoedd hir mewn busnes gan batrwm o bum petal yn llifo allan ac yn ôl i'r garreg sydd wrth galon y darn.
Cyflwynwn ein cynllun Rhosyn Caron i gofnodi twf ac ymsefydliad Rhiannon fel Rhosyn Caron go iawn!
Heb os nac oni bai, mae hwn yn ddarn i'w drysori heddiw ac un y bydd casglwyr y dyfodol yn ei drachwantu.