Cyfaddawd Sul y Tadau

A hithau’n Sul y Tadau dros y penwythnos wyf wedi bod yn pendroni hynt a helynt Tadau dros bedwar ban byd. Meddwl hefyd a wnes innau deilyngdod â fy nhad fy hunan tra bu fyw. Rwy’n hyderus bod y mwyafrif ohonom ni’r Tadau ar hyd a lled y blaned yn gwneud ein gorau glas i roi’r cyfle gorau i’n plant ac i’w harwain ar hyd trywydd call yn eu bywydau (ddim bob amser yn llwyddiannus wrth gwrs!). 

Efallai felly bod rhyw gyfiawnhad am ddiwrnod i nodi ein holl ymdrechion, ond nid wyf yn medru dianc rhag fy rhagfarn gynhenid mai diwrnod gwneud, wedi ei greu gan fyd busnes a chorfforaethol, yw ein diwrnod ni. Ymgais i’n godro unwaith eto mewn blwyddyn hir o ddathliadau, achlysuron a digwyddiadau sydd angen gwariant ar anrhegion, bwyta allan neu bartio. 

 Croesawaf garden, anrheg a chlod oddi wrth fy mhlant serch hynny! Peth braf yw rhagrith ar adegau! 

Ni fedraf fynegi barn am gartrefi eraill wrth gwrs ond yn ein tŷ ni, mam sy’n haeddu’r clod a’r mawl yn fwyaf – tŷ prysur ar y naw gyda phump o blant wedi’r cyfan.  

Credaf fy mod am rannu’r clod ar Ddydd Sul – cyfaddawd i blesio pawb!
,