Necled 18ct Rhaeadr Fawr £1865.00
gan
Rhiannon
Manylion
Ysbrydolwyd cynlluniau Rhaeadr Rhiannon gan afonydd a rhaeadrau Cymru. Mae eu llinellau llyfn a'u cerrig lliw yn adlewyrchu heulwen yn chwarae ar y dŵr, sydd efallai yn esbonio'r gwerth hudol a roddwyd i ddyfroedd tebyg yn y gorffennol.
Mae'r casgliad yn defnyddio 4 carreg 'cabochon':
- Amethyst (porffor)
- Garnet (coch tywyll)
- Labradorite (carreg symudliw gydag awgrym o wyrdd ac aur)
- Neffrite (gwyrdd tywyll)