Llun o 'Modrwy Sarff-Ddreigiau''
  • Llun o\'Modrwy Sarff-Ddreigiau\'
  • Llun o\'Modrwy Sarff-Ddreigiau\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S605r
Pris: £85.00
Categori: Modrwyau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: Addasol, yn seiliedig ar:; Small / Bach, Medium / Canolig
Ysgathru: Wedi Ysgathru â Llaw
Arall: Os ydych yn gwybod y maint modrwy go-iawn sydd angen arnoch, nodwch hyn yn y nodiadau os gwelwch yn dda, ac fe baratown y fodrwy i'r maint hwn.

Modrwy Sarff-Ddreigiau £85.00

Arian Sterling 925
£85.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb
*

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Creadur chwedlonol yw’r Ddraig, yn wreiddiol yn gynrychiolaeth weledol o nerthoedd cudd y ddaear. Creaduriaid tebyg i sarff oedd y rhai cynnar, nid y ddraig bedair coes ac adenydd mawr sy’n adnabyddus i ni heddiw, ond bwystfil gyda chorff fel neidr, pen ffyrnig a chynffon ddolennog, heb goesau ond weithiau gydag adenydd bychain. Dim ond mewn cyfnod diweddarach y datblygodd y fersiwn heraldaidd gyfoes, yn sefyll ar bedair coes gydag adenydd mawr, efallai wedi ei dylanwadu gan y ddraig Tsieiniaidd sy’n hir a chennog gyda choesau, adenydd a chynffon addurnedig.

Mae chwedlau gwerin am ddreigiau yn eu portreadu fel bwystfilod maleisus sy’n codi o lynnoedd ac afonydd i ddychryn pobl, ac yn cael eu gorchfygu gan arwyr dynol. Weithiau gwelir delweddau o sarff-ddreigiau mewn adeiladau ac eglwysi canoloesol; mae ambell un gyda dau ben yn wynebu dau gyfeiriad gwahanol, neu yn ffurfio math o gylch, lle mae’n llyncu ei phen ei hun.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.