Clustdlysau Carw Rhedynfre Arian £185.00
gan
Rhiannon
Manylion
Yn chwedl Culhwch ac Olwen, mae Culhwch yn holi pump o’r anifeiliaid hynaf a doethaf yn Ynys Prydain. Y cyntaf o’r rhain yw Carw Rhedynfre. Roedd ef wedi byw yn y fan honno ers yn garw ifanc a’i gyrn yn bigau bychain. Nid oedd yno goed ond un dderwen fach oedd newydd egino, ac ymhen amser gwelodd y goeden honno’n tyfu’n dderwen fawreddog â chant o ganghennau. Bu’r dderwen fyw am ganrifoedd lawer ond erbyn hyn roedd wedi syrthio mewn henaint ac nid oedd yno bellach ond bonyn bychan o bren cochlyd.