Llun o 'Tlws Llanddwyn Aur Cymru Rhiannon 18ct''
Llun o\'Tlws Llanddwyn Aur Cymru Rhiannon 18ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: D911a
Pris: £2725.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Aur Cymru Rhiannon 18ct
Maint: 15x24mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Aur 18ct 18''(45cm)

Tlws Llanddwyn Aur Cymru Rhiannon 18ct £2725.00

Aur Cymru Rhiannon 18ct
£2725.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Nawddsantes cariadon Cymru yw Dwynwen - tebyg i Sant Ffolant. Neulltiwyd diwrnod arbennig iddi, sef y 25ain o Ionawr, ac fe ddethlir y diwrnod hwnnw yn lle (neu yn ogystal â) Dydd Sant Ffolant ar y 14eg o Chwefror. Roedd Dwynwen mewn cariad â gwr o’r enw Maelon, ond roedd ei thad wedi trefnu priodas arall iddi. Yn ei ddicter a’i siom, treisiwyd Dwynwen gan Maelon. Diflannodd hithau wedyn i goedwig i weddïo, ac ymwelodd angel â hi yn ei breuddwydion, a’i gwella gyda diod felys. Rhoddodd yr angel yr un ddiod i Maelon, ac fe newidiodd yntau yn dalp o rew. Pan ddihunodd Dwynwen, cynigiodd Duw dri dymuniad iddi - defnyddiodd y cyntaf i ddadmer Maelon, yn ail mynnodd bod Duw yn ateb pob gorchymyn a wnaed ganddi dros wir gariadon, ac yn olaf dymunodd na fyddai byth yn priodi.

Mae’r cynllun yn cynnwys calon tu mewn clymwaith, sy’n cynrychioli’r cariadon y mae Dwynwen yn eu gwarchod. Mae tair ochr y cwlwm triphlyg yn cynrychioli’r tri dymuniad a gafodd Dwynwen yn rhodd wrth Dduw.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.