Llun o 'Dolenni Llawes Draig Preseli Aur 9ct''
Llun o\'Dolenni Llawes Draig Preseli Aur 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: G451c
Pris: £1395.00
Categori: Dolenni Llewys
Cyfrwng: Aur 9ct
Maint: 20x21mm
Cefnau Tro: Oes

Dolenni Llawes Draig Preseli Aur 9ct £1395.00

Aur 9ct
£1395.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb
Hefyd ar gael mewn:

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Mae’r garreg las a welir ar fynydd Preseli yn garreg hynod, - cymaint felly fel y trafferthod rhywrai yn yr amser cyn hanes i'w gymeryd o orllewin Cymru a'i gludo yr holl ffordd ar draws Prydain er mwyn adeiladu teml arbennig yn ne Lloegr, sef Côr y Cewri (Stonehenge). Gwenithfaen ydyw, yn cynnwys crisialau o farmor gwyn, a phan roddir sglein arno mae'n troi yn lliw gwyrddlas tywyll gyda smotiau gwynion sy'n edrych fel awyr y nos; hyn efallai oedd yn gyfrifol am ei arwyddocad arbennig i'n cyndeidiau derwyddol yn y cyfnod Celtaidd, neu efallai mai ei gysylltiadau â iechyd oedd yn gyfrifol.

Mae Rhiannon yn defnyddio cerrig gleison 'cabochon' wedi eu gosod mewn aur neu arian i wneud y gemwaith unigryw yma. Mae’r Ddraig symbolaidd yn cynrychioli nerthoedd y ddaear, fel yr ymddangosant mewn ffynhonnau, dyfroedd tanddaearol a meini hirion. Deallai’r derwyddon y pwerau hyn a ddefnyddient hwy at bwrpasau darogan, iachau a seremonïau crefyddol. Mae’r cynlluniau eraill yn adlewyrchu cyfnod diweddarach yn ein hanes, pan ddaeth disgynyddion y derwyddon yn arweinwyr Cristnogol, y meini hirion yn groesau aruchel cerfiedig a’r ffynhonnau hud yn ffynhonnau iachâd sanctaidd.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.