Modrwy Glymwaith Aur Cymru Rhiannon 18ct (Cysylltwch â ni am bris)
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar y cwlwm nodweddiadol Geltaidd a ffurfiwyd o un linell ddi-dor, sy’n ymddangos ar gerrig cerfiedig ac mewn llawysgrifau Cristnogol cynnar. Fersiwn syml yw hwn ond mae ei harddwch a’i gytbwysedd goruwch llawer o gynlluniau clymwaith mwy cymhleth.
Mae’n debyg mai Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus mewn celfyddyd Geltaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen. Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant i’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a’r byd naturiol fel ei gilydd.