Llun o 'Tlws Rhosyn Rhuddem Aur Cymru Rhiannon 9ct''
Llun o\'Tlws Rhosyn Rhuddem Aur Cymru Rhiannon 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: W940a
Pris: £4495.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Aur Cymru Rhiannon 9ct
Cadwyn: Cadwyn Spiga Aur 9ct 18''(45cm)
Cynhyrchiad Cyfyngedig: 40

Tlws Rhosyn Rhuddem Aur Cymru Rhiannon 9ct £4495.00

Aur Cymru Rhiannon 9ct
£4495.00
Allan o Stoc

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Y cyntaf o gyfres o ddarnau cyfyngedig, wedi ei greu i gofnodi ein dathliadau yn ddeugain mlwydd oed yma yng Nghwmni Rhiannon, Tregaron.

Wedi ei wneud o Aur Cymru Rhiannon, mae’r tlws hwn yn ymgorffori rhuddem o’r safon uchaf o fewn patrwm clymwaith manwl sydd yn ffurfio rhosyn Celtaidd gyda phedair calon ynghudd o fewn y cynllun.

Gosodwyd y rhuddem yn uchel er mwyn iddi ddal y golau o bob ongl i’w gweld ar ei gorau bob amser. Mae bob darn wedi eu wneud â llaw gan Rhiannon ei hun yn ein gweithdy yn Nhregaron. Dim ond 40 o’r tlysau godidog hyn a grëwyd, un rhuddem i ddathlu bob blwyddyn o fodolaeth y busnes.