Llun o 'Necled Arian Cŵn Annwn''
  • Llun o\'Necled Arian Cŵn Annwn\'
  • Llun o\'Necled Arian Cŵn Annwn\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S006n
Pris: £595.00
Categori: Necledau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 75x40mm
Cadwyn: Cadwyn Rhaff Arian 16''(40cm)

Necled Arian Cŵn Annwn £595.00

Arian Sterling 925
£595.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Daw teitl y darn o chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, rhan o’r mabinogi. Tra’n hela carw, mae Pwyll yn dod ar draws cŵn heliwr arall ar yr anifail cyn iddo fedru ei hawlio dros ei hun. Maent yn gŵn mawr rhyfedd yr olwg, rhai "claerwyn llachar a’u clustiau yn goch fel gwaed". Mae’n gyrru’r cŵn ymaith, ond wedyn yn darganfod eu bod yn eiddo i Arawn, brenin Annwn (yr arallfyd). Er mwyn ennill ei faddeuant, rhaid i Pwyll gyfnewid bywyd gydag Arawn a lladd gelyn iddo yn Annwn. Mae drychddelwedd y darn yn adlewyrchiad o’r cyfnewid hwn.

Seiliwyd y cŵn ar y Bleiddgi Gwyddelig, sy’n ddisgynydd i gŵn y pendefigion Celtaidd ac yn cyfateb i’r disgrifiadau yn y Mabinogi a chwedlau Iwerddon.