Llun o 'Tlws Cwlwm Syml Preseli Arian''
Llun o\'Tlws Cwlwm Syml Preseli Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S463a
Pris: £145.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 11 x 21mm
Sy'n Cynnwys: Preseli
Cadwyn: Cadwyn Safonol Arian 18''(45cm)

Tlws Cwlwm Syml Preseli Arian £145.00

Arian Sterling 925
£145.00
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Manylion

Mae’r garreg las a welir ar fynydd Preseli yn garreg hynod, - cymaint felly fel y trafferthod rhywrai yn yr amser cyn hanes i'w gymeryd o orllewin Cymru a'i gludo yr holl ffordd ar draws Prydain er mwyn adeiladu teml arbennig yn ne Lloegr, sef Cor y Cewri (Stonehenge). Gwenithfaen ydyw, yn cynnwys crisialau o farmor gwyn, a phan roddir sglein arno mae'n troi yn lliw gwyrddlas tywyll gyda smotiau gwynion sy'n edrych fel awyr y nos; hyn efallai oedd yn gyfrifol am ei arwyddocad arbennig i'n cyndeidiau derwyddol yn y cyfnod Celtaidd, neu efallai ei gysylltiadau a iechyd oedd yn gyfrifol.

Mae Rhiannon yn defnyddio cerrig gleison 'cabochon' wedi eu gosod mewn aur neu arian i wneud y gemwaith unigryw yma. Mae’r cynllun hwn yn adlewyrchu cyfnod diweddarach yn ein hanes, pan ddaeth disgynyddion y derwyddon yn arweinwyr Cristnogol, y meini hirion yn groesau aruchel cerfiedig a’r ffynhonnau hud yn ffynhonnau iachâd sanctaidd.

O'r un teulu