Necled Proffwydoliaeth Myrddin Aur Cymru Rhiannon 9ct £1995.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Yn y 5ed Ganrif, bradychwyd Gwrtheyrn, Brenin Prydain gan hurfilwyr Sacsonaidd, a goncrodd ei diroedd a’i yrru yn ol i ddiogelwch naturiol Eryri. Ond pob tro yr oedd yn gosod seiliau ar gyfer castell, fe’i dymchwelwyd dros nos. Casgliad Gwrtheyrn oedd bod pwerau drwg yn ei erbyn, a phenderfynodd aberthu bachgen ifanc o’r enw Myrddin i’w gyrru ymaith. Cyngor hwnnw i Gwrtheyrn oedd bod dwy ddraig mewn pwll o dan y castell, ac mae’r rheiny oedd yn dymchwel y seiliau. Darganfyddwyd y pwll hwn, a’i wagio, ac wedyn cododd y ddwy ddraig a brwydro’n hir yn yr awyr uwchben y mynyddoedd. Y ddraig wen oedd yn drech i ddechrau, ond y goch a orfu. Suddodd y ddwy wedyn i’r tir dan yr Wyddfa, lle dywed iddynt fod o hyd. Proffwydoliaeth Myrddin oedd bod y ddraig goch yn cynrychioli’r Prydeinwyr, yn ymladd yn erbyn draig wen y Sacsoniaid. Byddai brwydro hir rhwng y ddau, ond y Prydeinwyr fyddai’n ennill yn y pen draw. Byddent wedyn yn ad-hawlio’r tiroedd a gymerwyd oddi wrthynt gan y Sacsoniaid, a byddai eu hynys yn cael ei hadnabod fel Prydain unwaith yn rhagor.