Llun o 'Modrwy Glymwaith Aur Cymru Rhiannon 9ct''
Llun o\'Modrwy Glymwaith Aur Cymru Rhiannon 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: W913r
Pris: (Cysylltwch â ni am bris)
Categori: Modrwyau â Cherrig Gwerthfawr
Cyfrwng: Aur Cymru Rhiannon 9ct
Maint: 5mm o led; H - W

Modrwy Glymwaith Aur Cymru Rhiannon 9ct (Cysylltwch â ni am bris)

Aur Cymru Rhiannon 9ct
Cysylltwch â ni am bris

Manylion

Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar y cwlwm nodweddiadol Geltaidd a ffurfiwyd o un linell ddi-dor, sy’n ymddangos ar gerrig cerfiedig ac mewn llawysgrifau Cristnogol cynnar. Fersiwn syml yw hwn ond mae ei harddwch a’i gytbwysedd goruwch llawer o gynlluniau clymwaith mwy cymhleth.

Mae’n debyg mai Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus mewn celfyddyd Geltaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen. Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant i’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a’r byd naturiol fel ei gilydd.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.

O'r un teulu