Llun o 'Modrwy Penfro Aur Cymru Rhiannon 9ct''
Llun o\'Modrwy Penfro Aur Cymru Rhiannon 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: W912r
Pris: £1175.00
Categori: Modrwyau
Cyfrwng: Aur Cymru Rhiannon 9ct
Maint: 5mm o led; H - W

Modrwy Penfro Aur Cymru Rhiannon 9ct £1175.00

Aur Cymru Rhiannon 9ct
£1175.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb
*

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Daw’r enw Penfro yn uniongyrchol o’r hen chwedlau. Yn stori Branwen Ferch Llŷr, mae rhyfel mawr rhwng y Cymru a’r Gwyddelod, dros urddas Branwen, tywysoges Gymreig sy’n cael ei cham-drin gan ei gŵr Gwyddelig. Yn y frwydr, lladdwyd ei brawd Bendigeidfran, a phob un ond saith o’i ryfelwyr. Ei orchymyn olaf i’r rheiny oedd iddynt gario ei ben yn ôl i Gymru, a’i gadw mewn ystafell arbennig yng nghastell Gwales ym Mhenfro. Tra byddent yno, ni fyddai unrhyw angen arnynt, heblaw eu bod yn agor y drws oedd yn edrych tua Chernyw. Trigodd ei ryfelwyr yno’n ddedwydd am bedwar-ugain mlynedd, nes i’w chwilfrydedd fynd yn drech na nhw. Llifodd eu galar yn ôl, a bu rhaid iddynt adael Penfro, gan gymryd pen eu harweinydd i’w gladdu ar y Bryn Gwyn yn Llundain, lle saif Tŵr Llundain yn awr. Tra byddai’r pen yno byddai’n gwarchod Ynys Prydain rhag ymosodiadau estron. Mae poblogaeth o frain yn byw yn Nhŵr Llundain ers cyn cof. Cânt eu gwarchod yn ofalus gan y ceidwaid o filwyr Prydeinig sydd yno - ac mae ganddynt oll enwau Cymraeg.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.