Llun o 'Botymau Clust Arberth Aur Cymru Rhiannon 9ct''
Llun o\'Botymau Clust Arberth Aur Cymru Rhiannon 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: W901s
Pris: £845.00
Categori: Clustdlysau a Botymau Clust
Cyfrwng: Aur Cymru Rhiannon 9ct
Maint: 11x11mm
Clustdlysau: Cefnau Pili-pala Aur 9ct

Botymau Clust Arberth Aur Cymru Rhiannon 9ct £845.00

Aur Cymru Rhiannon 9ct
£845.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Mae’r Trisgell yn symbol pwerus a ddefnyddiwyd yn y byd Celtaidd ers dros 3000 o flynyddoedd. Wedi ei seilio ar gylch wedi ei rannu’n dri, mae’n cynrychioli credo sylfaenol y Celtiaid, lle mae pob peth sanctaidd yn dod yn drioedd a chylch tragwyddol bywyd yn cael ei weld fel rhod yn troi.

Arberth oedd Llys Pwyll Pendefig Dyfed, a chawn ei hanes yng Nghainc gyntaf y Mabinogi. Mae’r chwedlau hyn yn gyfuniad o fytholeg Geltaidd, a chwedloniaeth Gymreig, straeon arwrol a thraddodiadau lleol, wedi eu hel at ei gilydd a’u rhoi ar glawr gan fynachod yn yr Oesoedd Canol. Dyma ran mwyaf hynafol ein hetifeddiaeth Celtaidd a Phrydeinig, ac maent yn arbennig iawn oherwydd eu bod yn ddrych ar ddiwylliant Celtaidd llawer iawn hŷn.