Tlws Croes Non Aur 18ct £1725.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Er mai disgynnydd o linach Cunedda - un o’r brenhinoedd Cymreig cynharaf - oedd Dewi, nawddsant Cymru, cysylltir ef yn bennaf â’i fam, Non.
Golyga Non, yn syml iawn, ‘lleian’, ac yr oedd yn ffigur sanctaidd ei hun. Ceir capel iddi rhyw filltir o’r Gadeirlan yn Nhŷ Ddewi. Saif y capel canoloesol ar seiliau Celtaidd fore o fewn cylch cerrig o’r Oes Efydd, ac ynddi mae carreg gyda chroes Geltaidd gynnar ar ffurf cylch wedi ei rannu'n bedwar. Mae ffynnon sanctaidd Non ar y safle hwn yn un o’r enwocaf yng Nghymru. Fe’i chysylltir ag iacháu, yn arbennig iacháu anhwylderau neu glefyd ar y llygaid.
Teithiodd Non yn eang - cysegrwyd nifer o ffynhonau ac eglwysi iddi yng Nghernyw. Yn Altarnun (yn llythrennol ‘Allor Non’) i’r gogledd ddwyrain o Rhos Bodmin, saif ffynnon mewn cae uwchben yr eglwys. Rhed y ffrwd i bwll sanctaidd lle’r arferid trochi’r gorffwyll yn ddefodol ac yna gweddïo er adferiad y claf.
Cysylltir Non â safle ffynnon Pelynt yng Nghernyw hefyd. Difera’r dŵr o’r ffynnon i bowlen ithfaen wedi ei haddurno â chroesau cylch. Mae’r cynllun hwnnw yn debyg iawn i'r garreg gerfiedig yn Sir Benfro - felly dyna’r arwyddlun sydd yn ffurfio Croes Non Rhiannon.