Tlws Croes Sant Padrig Aur 18ct £2125.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Cynllun clymwaith cymhleth yn ffurfio croes addurniedig; - fe’i gwelir ar groes garreg yn Carndonagh yn yr Iwerddon.
Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i fewn i’w wyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.