Tlws 18ct Pwyll Arawn £2395.00
gan
Rhiannon
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Ar ddechrau Cainc gyntaf y Mabinogi, mae Pwyll Pendefig Dyfed yn cael cyfarfod rhyfeddol gydag Arawn, Brenin o Annwn (Yr Arallfyd). Maent wedyn yn cyfnewid eu bywydau a'u ffurfiau corfforol ac y mae'r naill yn byw yn nheyrnas y llall. Mae'r cynllun gwreiddiol hwn gan Rhiannon yn mynegi'r adlewyrch deublyg sydd yn y chwedl hon a rhannau eraill o'r Mabinogi.
Seiliwyd dau gynllun arall, Ceirw Cwm Cych a Cwn Annwn, ar yr un chwedl.