Llun o 'Necled Dreigiau Clwm Aur 18ct''
Llun o\'Necled Dreigiau Clwm Aur 18ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: E045n
Pris: £1345.00
Categori: Necledau
Cyfrwng: Aur 18ct
Maint: 29 x 20mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Aur 18ct 16''(40cm) (rhanedig)

Necled Dreigiau Clwm Aur 18ct £1345.00

Aur 18ct
£1345.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb
Hefyd ar gael mewn:

Manylion

Patrwm o gylymwaith Celtaidd yn ymgorffori sarff-ddreigiau, gyda ffurf ‘Tafod y Ddraig’ yn ymddangos yng nghanol y patrwm.

Mae’r cynllun hwn yn un o nifer yn ein casgliad Clymwaith Celtaidd. Mae’n debyg taw Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus o gynllunwaith Celtaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen.

Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant á’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a naturiol fel ei gilydd.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.

O'r un teulu