Llun o 'Tlws Croes Llydaw Aur 18ct''
  • Llun o\'Tlws Croes Llydaw Aur 18ct\'
  • Llun o\'Tlws Croes Llydaw Aur 18ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: E003a
Pris: £1595.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Aur 18ct
Maint: 21 x 31mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Aur 18ct 18''(45cm)

Tlws Croes Llydaw Aur 18ct £1595.00

Aur 18ct
£1595.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Croes Geltaidd ysgafn ag iddi gylch bach a breichiau addurniedig. Darganfuwyd y math yma o groes yn aml yn Llydaw a Chernyw.

Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i’w hwyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.