Tlws Croes Cymru Aur 18ct £1795.00
gan
Rhiannon
Manylion
Croes nodweddiadol Geltaidd gynnar, o'r math a geir yn fynych yng Nghymru a'r Iwerddon, gyda chylch mawr o gwmpas canol y groes. Hefyd yn cael ei galw yn "Groes Haul", mae'n symbol cyntefig o undod Cristnogaeth a'r grefydd dderwyddol.
Mae croesau carreg yn rhan bwysig o'n treftadaeth Celtaidd, gyda rhai syml yn dyddio o mor gynnar â'r 6ed ganrif. Gwelir y croesau yn mynd yn fwy addurniedig dros amser, gyda'r rhai mwy diweddar, o'r 8fed i'r 11eg ganrif, yn dangos cerfiadau cain o glymwaith, patrymau, a hanesion beiblaidd ar bob ochr.