Llun o 'Broets Ŵyn Bach Melangell Aur 9ct''
Llun o\'Broets Ŵyn Bach Melangell Aur 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: G079b
Pris: £1175.00
Categori: Broetsiau
Cyfrwng: Aur 9ct
Maint: 36 x 36mm
Clicied Ddiogel: Oes

Broets Ŵyn Bach Melangell Aur 9ct £1175.00

Aur 9ct
£1175.00
Ar gael: Yn ôl y galw*
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Un diwrnod yn y flwyddyn 590 roedd Brochwel, Brenin Powys yn hela sgwarnogod. Gyrrwyd un i mewn i ddryslwyn o ddrain gan ei gŵn, ond gwrthodent fynd ymhellach. Er mawr syndod i Brochwel canfu fod y sgwarnog wedi cael lloches o dan fantell merch ifanc brydferth a oedd yn gweddïo ynghanol y dryslwyn. Dywedodd hithau wrtho mai ei henw oedd Melangell a’i bod yn ferch i frenin o’r Iwerddon. Yr oedd wedi dianc i Gymru a chysegru ei bywyd i Dduw, gan fyw fel meudwy yn ddirgel ar ei dir ers 15 mlynedd.

Wrth weld y fath ryfeddod, cyflwynodd Brochwel ddarn o dir yn eiddo i Melangell, i’w gadw fel lloches ac amddiffynfa ddilychwin am byth. Bu Melangell fyw yno am 37 mlynedd eto, gan sefydlu cymuned fechan o ferched yn addoli Duw. Trwy gydol yr amser parhaodd sgwarnogod i ymweld â’r fangre yn ddyddiol a daethant i gael eu derbyn fel creaduriaid sanctaidd gyda bendith arbennig Melangell i’w hamddiffyn. Ni chaent eu hela yno, ac un o’r enwau lleol am sgwarnogod yw Ŵyn Bach Melangell.

* Mae rhai eitemau yn cael eu gwneud yn ôl y galw yn hytrach na chael eu cadw mewn stoc yn barhaol. Gall hyn gynyddu'r amser fydd angen i ddarparu'r eitem. Cyfeiriwch at ein polisi dosbarthu neu gysylltwch am fwy o fanylion.