Tlws Croes Llangyfelach Aur 9ct £995.00
Manylion
Seiliedig ar garreg gerfiedig yn Eglwys Llangyfelach, Morgannwg - yn dyddio o’r 9fed ganrif. Mae patrwm y groes yn amrywiad ar ‘Gwlwm Trindod’, dyfais a ddefnyddiwyd yn helaeth yng nghelfyddyd y Celtiaid Cristnogol. Gwelir cast o'r garreg yn arddangosfa'r Celtiaid yng Nghymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i fewn i’w wyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.