Llun o 'Necled Dreigiau Clwm Aur 9ct''
Llun o\'Necled Dreigiau Clwm Aur 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: G045n
Pris: £595.00
Categori: Necledau
Cyfrwng: Aur 9ct
Maint: 29 x 20mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Aur 9ct 16''(40cm) (rhanedig)

Necled Dreigiau Clwm Aur 9ct £595.00

Aur 9ct
£595.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Patrwm o gylymwaith Celtaidd yn ymgorffori sarff-ddreigiau, gyda ffurf ‘Tafod y Ddraig’ yn ymddangos yng nghanol y patrwm.

Mae’r cynllun hwn yn un o nifer yn ein casgliad Clymwaith Celtaidd. Mae’n debyg taw Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus o gynllunwaith Celtaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen.

Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant á’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a naturiol fel ei gilydd.