Botymau Clust Cwlwm Tri Bach Aur 9ct £295.00
gan
Rhiannon
Hefyd ar gael mewn:
Manylion
Mae’r cwlwm tri yn crynhoad perffaith o’r ffordd y parhaodd llawer o fytholeg baganaidd y Celtiaid i mewn i’r cyfnod Celtaidd Gristnogol. Roedd gan y rhif tri arwyddocad arbennig i’r Celtiaid, ond mynachod Cristnogol a ddatblygodd gelfyddyd coeth allan o batrymau clymwaith Celtaidd, wrth iddynt addurno llawysgrifau crefyddol a delweddau cain a chymhleth. Daeth y cwlwm tri yn Gwlwm y Drindod, symbol cyfleus am y Drindod Sanctaidd, ac fe’i defnyddiwyd hi’n aml ar groesau ac ar adeiladau yn ogystal a mewn llyfrau crefyddol yn ystod y cyfnod Celtaidd Gristnogol cynnar..