Pin Cenhinen Bedr Fawr Arian £115.00
gan
Rhiannon
Manylion
Mae’r cynllun hwn yn perthyn i Gasgliad Cymru, sy’n cynnwys Dreigiau, Cennin Pedr a’r Delyn. Maent yn arwyddion sylfaenol a dirodres o genedl gymhleth; ein bwriad oedd cadw’r cynlluniau gemwaith mor syml a phosib, er mwyn adlewyrchu hynny. Er bod y symbolau yn rhai digon cyffredin, mae pob darn wedi ei fodelu mewn manylder godidog gan Rhiannon.
Mae’r Genhinen Pedr hon, sydd wedi ei modelu yn llawn, yn gwneud pin deniadol iawn i’w wisgo ar got neu siaced – dylai pawb o dras Cymreig wisgo Cenhinen Pedr ar Ddydd Gwyl Dewi, ac mae hon yn siwr o bara am flynyddoedd.