Broets Barcud Coch Arian £145.00
gan
Rhiannon
Manylion
Bu’r Barcud Coch ar fin marw allan ym Mhrydain am gyfnod, cymaint felly mai nifer fechan iawn o barau oedd yn weddill, a'r rheiny yng Nghanolbarth Cymru. Llwyddwyd i achub yr aderyn trwy ymgyrch i warchod eu nythau (gan yr SAS, ymysg eraill, gan bod y fyddin Brydeinig yn defnyddio meysydd ymarfer yn y canolbarth) ac i ledaenu’r ardal fridio. Erbyn hyn, gwelir Barcutiaid Coch yn aml dros Dregaron a mynyddoedd i’r Dwyrain ohoni, hyd yn oed mor bell â Lloegr ar adegau.