Tlws Arian Trisgell Anglia £125.00
gan
Rhiannon
Manylion
Cynllun sy'n gopi cywir o’r patrwm ar froets fach efydd yn dyddio o'r ganrif 1af CC. Mae olion enamel coch wedi goroesi ar y gwreiddiol, sydd i’w weld yn ein Canolfan yn Nhregaron.
Mae’r Trisgell yn symbol pwerus a ddefnyddiwyd yn y byd Celtaidd ers dros 3000 o flynyddoedd. Wedi ei seilio ar gylch wedi ei rannu’n dri, mae’n cynrychioli credo sylfaenol y Celtiaid, lle mae pob peth sanctaidd yn dod yn drioedd a chylch tragwyddol bywyd yn cael ei weld fel rhod yn troi.