Broets Adar Rhiannon Arian £165.00
gan
Rhiannon
Manylion
Tri aderyn hudolus oedd Adar Rhiannon, a fyddai’n dilyn Rhiannon, Brenhines yr Arallfyd. Ni fyddent byth i’w gweld, ond roedd eu canu mor bersain nes y byddai’r sawl â’i clywodd yn cael eu hudo’n syth i fyd o harddwch, iechyd ac hapusrwydd dilychwin. Ymdebyga’r stori i’r chwedlau Gwyddelig, heblaw mai Clíodna yw enw’r frenhines, a bod yr adar i’w gweld wedi eu harddu â phlu llachar, wrth iddynt fwyta o ffrwyth coeden afalau yr Arallfyd.